Os ydych eisiau cynnyrch Cymru, bwydydd anghyffredin, arbenigeddau o gyfandir Ewrop, gwinoedd cain ac artisan, melysion a chacennau traddodiadol, bwyd wedi ei ddarparu ar gyfer eich achlysuron preifat, neu bryd o ansawdd wedi ei baratoi gan ddefnyddio’r cynhwysion gyda’r mwyaf ffres, yna treuliwch amser yn ymweld â Blas ar Fwyd.
Ers sefydlu ein busnes delicatessen yn Llanrwst yn 1988 sy’n gwerthu bwyd a diod o safon o Gymru a phedwar ban byd, rydym wedi bod wrthi yn gwasanaethu’r cyhoedd yn ein siopau, tŷ bwyta, arlwyo ar leoliad ac yn darparu ar gyfer y farchnad gyfanwerthu yng Nghymru. Erbyn hyn rydym yn cynnig ein cynnyrch a’n gwasanaethau dros y we.
Mae ein busnes delicatessen yn derbyn amrywiaeth lawn o nwyddau gyda llawer ohonynt yn dod atom yn uniongyrchol o’r cynhyrchwyr neu yn cael eu mewnforio’n benodol ar gyfer Blas ar Fwyd. Mae ein gwinoedd yn dod o winllannoedd arbenigol dros y byd i gyd tra bod llawer o’n cawsiau yn gynnyrch gwartheg, defaid a geifr syn pori'n rhydd ar ucheldiroedd Cymru.