Blas ar Fwyd
Ers sefydlu ein busnes delicatessen yn Llanrwst yn 1988 yn gwerthu bwyd a diod o
safon o Gymru a phedwar ban byd, rydym wedi bod wrthi yn gwasanaethur cyhoedd
yn ein siopau, ty bwyta, arlwyo ar leoliad ac yn darparu ar gyfer y farchnad
gyfanwerthu yng Nghymru. Erbyn hyn rydym yn cynnig ein cynnyrch an
gwasanaethau dros y we...
Mae ein busnes delicatessen yn derbyn amrywiaeth lawn o nwyddau gyda llawer
ohonynt yn dod atom yn uniongyrchol or cynhyrchwyr neu yn cael eu mewnforion
benodol ar gyfer Blas ar Fwyd. Mae ein gwinoedd yn dod o winllannoedd
arbenigol dros y byd i gyd tra bod llawer on cawsiau yn gynnyrch gwartheg,
defaid a geifr syn porin rhydd ar ucheldiroedd Cymru.
Os ydych eisiau cynnyrch Cymru, bwydydd anghyffredin, arbenigeddau o gyfandir
Ewrop, gwinoedd cain ac artisan, melysion a chacennau traddodiadol, bwyd wedi
ei ddarparu ar gyfer eich achlysuron preifat, neu bryd o ansawdd wedi ei
baratoi gan ddefnyddior cynhwysion gydar mwyaf ffres, yna treuliwch amser yn
ymweld Blas ar Fwyd.
Llanrwst
Yn deillio mwy na thebyg o enw Celtaidd, rhoddodd y Rhufeiniaid yr enw Canovium
ar yr hyn rydym ni yn eu hadnabod heddiw fel Afon a Dyffryn Conwy. Tra roedd y
brenhinoedd Normanaidd yn codi cestyll mewn mannau strategol ar hyd yr arfordir
ac yn y Mers codwyd un or rhain ger aber yr Afon Gonwy er mwyn rheolir
drafnidiaeth i fyny ac i lawr yr afon. Un or mannau pwysicaf yn uwch i fynyr
dyffryn oedd tref farchnad Llanrwst, tref a oedd i dyfu yn ei phwysigrwydd yn
ystod y blynyddoedd i ddod gydag adeiladur Bont Fawr yno yn 1636 gan wneud o
Lanrwst yr unig fan croesir Afon Gonwy yn y dyffryn cyfan, a hynny tan y 19eg
ganrif.
Mae tref Llanrwst yn gorwedd ar ganol y dyffryn rhwng tiroedd amaethyddol da ir
dwyrain a chopaon garw Eryri ir gorllewin. Yn enwog yn draddodiadol am ei
ffair anifeiliaid ac am wneud clociau mawr a thelynnau Cymreig, roedd y dref
hefyd yn adnabyddus am ei diwydiant edau wln ac am gynhyrchu hwyliau. Yn
ogystal bod wedi cadwr awyrgylch prin o dref farchnad draddodiadol gydag
oddeutu cant o siopau bychain yno, mae Llanrwst yn cynnig sawl atyniad megis yr
elusendai, parc a llwybr ger yr afon, Eglwys ganoloesol San Crwst gydai sgrn
yn deillio or 15fed ganrif, a Chastell Gwydir yr ochr arall ir afon. Yn
hanesyddol yn faen tramgwydd i fyddinoedd Rhufain a Lloegr bu Llanrwst am
gyfnod y tu allan i reolaeth y Saeson a gweddill y Cymry, gan arwain ir
dywediad Cymru, Lloegr a Llanrwst ac i ymdeimlad o annibyniaeth leol sydd yn
dal i fodoli heddiw.
Wedi ei lleoli ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, gyda Betws-y-Coed bedair
milltir a Llandudno ddeuddeg milltir i ffwrdd, mae Llanrwst yn ganolfan
delfrydol ar gyfer ymweld gogledd Cymru.