Croeso i Blas ar Fwyd

Gwasanaethau Arlwyo

Maer bwydydd, y gwinoedd ar cynnyrch sydd ar gael yn ein ty bwyta ac yn y delicatessen yn cael eu defnyddio hefyd ar gyfer ein gwasanaeth arlwyo unigryw. Rydym yn arlwyo ar gyfer priodasau, penblwyddi, cyngherddau, cyfarfodydd, dathliadau ac achlysuron o bob math, a hynny mewn lleoliadau amrywiol megis cartrefi preifat, pebyll mawrion, plasdai, neu gestyll.

Clicwich ar y lluniau i agor fersiwn maint llawn

Mae ein bwydlenni yn amrywiol ac yn hyblyg ac feu haddasir i foddhau anghenion arbennig ein cwsmeriaid gan baratoi ar eu cyfer ddetholiad ffres o ganapes, bwffe bys a bawd neu gyllell a fforc, a bwffe oer neu boeth. Rydym hefyd yn gwneud brecwast busnes, prydau o un cwrs neu chiniawau poeth llawn, oll gyda gwasanaeth gweini llawn. Rydym yn darparu llestri, gwydrau a chyllyll a ffyrc syn gymorth i leddfur cur pen o drefnu achlysuron or fath.

Rydym yn darparu ar gyfer ciniawa o ddwsin o westai yn ogystal phriodasau a phartion o gannoedd o wahoddedigion. Mae ein cwsmeriaid rheolaidd yn cynnwys busnesau ac awdurdodau lleol, cwmniau ffilm, cwmniau rhyngwladol ac elusennau megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae tirwedd gwefreiddiol Cymru yn golygu hefyd fod y diwydiannau ffilm a hysbysebu yn cael eu denu yma ac, oi gegin symudol, fe fydd Blas ar Fwyd yn cyflenwi bwyd a diod iddynt ar leoliad.