Delicatessen
Delicatesen yw Blas ar Fwyd sy’n arbenigo mewn bwydydd a diodydd Cymreig a chyfandirol. Mae Blas ar Fwyd yn ymroddedig i’r lleol ac yn gwerthu amrywiaeth o gawsiau Cymreig, megis cawsiau Cenarth, ac Eryri, a chawsiau Teifi a Gorwydd. Hefyd mae dewis arbenigol o gynnyrch organig, bwydydd poeth ac oer sydd wedi eu gwneud ar ein safle.
Wine merchant
Mae gan Blas ar Wîn detholiad gwych o winoedd ffein Cymru. Diodydd o Gymru’n cynnwys: gwin Cariad, Glyndŵr a Llanbadrig; Chwisgi Penderyn; Cwrw Great Orme a Penlon; gwirod Black Mountain; medd Newquay Honey; seidr Taffy Apple; a Toffoc fodca gyda blas taffi.  
Welcome to Blas ar Fwyd

Os ydych eisiau cynnyrch Cymru, bwydydd anghyffredin, arbenigeddau o gyfandir Ewrop, gwinoedd cain ac artisan, melysion a chacennau traddodiadol, bwyd wedi ei ddarparu ar gyfer eich achlysuron preifat, neu bryd o ansawdd wedi ei baratoi gan ddefnyddio’r cynhwysion gyda’r mwyaf ffres, yna treuliwch amser yn ymweld â Blas ar Fwyd.

Ers sefydlu ein busnes delicatessen yn Llanrwst yn 1988 sy’n gwerthu bwyd a diod o safon o Gymru a phedwar ban byd, rydym wedi bod wrthi yn gwasanaethu’r cyhoedd yn ein siopau, tŷ bwyta, arlwyo ar leoliad ac yn darparu ar gyfer y farchnad gyfanwerthu yng Nghymru. Erbyn hyn rydym yn cynnig ein cynnyrch a’n gwasanaethau dros y we.

Mae ein busnes delicatessen yn derbyn amrywiaeth lawn o nwyddau gyda llawer ohonynt yn dod atom yn uniongyrchol o’r cynhyrchwyr neu yn cael eu mewnforio’n benodol ar gyfer Blas ar Fwyd. Mae ein gwinoedd yn dod o winllannoedd arbenigol dros y byd i gyd tra bod llawer o’n cawsiau yn gynnyrch gwartheg, defaid a geifr syn pori'n rhydd ar ucheldiroedd Cymru.

Cynigion arbenig mis Tachwedd a Rhagfyr

DANFON AM DDIM
Mae’r gost danfon am ddim i ardaloedd lleol drwy Ogledd a Chanolbarth Cymru ar gororau. Pam ddim creu hamper eich hun? Ffoniwch Blas ar Fwyd 01492 640 215

Blas ar Fwyd Hamper Nadolig 2008 £45 - cliciwch yma
Blas ar Fwyd Hamper Bore Nadolig £33 - cliciwch yma
Blas ar Fwyd Hamper Moethus £80 - cliciwch yma
NEWYDDION DIWEDDARAF

SÊL WIN Y GAEAF
Wythnos yn unig!

1af i 7fed o Ragfyr 2008
Gostyngiad o 15%
Restaurant
Tra bod Blas ar Fwyd wedi cael ei gyfeirio ato fel y delicatesen gorau yng Nghymru, mae ‘hefyd yn cynnwys tŷ bwyta a brasserie, Amser Da, lle allwch ddod i fwynhau cappuccino boreuol neu eistedd lawr i gael te prynhawn, tra ar yr un pryd cynigir bwydydd rhyngwladol a Chymreig wedi eu paratoi yn ffres i ginio nos.
Catering
Mae gan Blas ar Fwyd hefyd 25 mlynedd o brofiad yn cynnig gwasanaeth arlwyo cynhwysfawr, mewn lleoliadau ledled gogledd a chanolbarth Cymru. Rydym yn cynnig paratoi ar eich cyfer ddetholiad ffres o ganapes, bwffe bys a bawd neu chyllell a fforc, yn ogystal a bwffe oer neu boeth. Rydym hefyd yn gwneud brecwast busnes, prydau o un cwrs neu chiniawa poeth llawn, oll gyda’r gwasanaeth angenrheidiol.