Prosesu Archebion
Ar l derbyn eich archeb, mae Blas ar Fwyd yn disgwyl danfon eich archeb oddi
mewn 7 diwrnod gwaith. Os nad yw hyn yn bosib byddwn yn anfon e-bost ich
hysbysebu or raddfa amser disgwyliedig. Rydym yn danfon ddydd Llun i ddydd
Gwener. Nid ydym yn danfon ar benwythnosau. Byddwch yn derbyn e-bost i
gadarnhau fod eich archeb wedi ei anfon.
Ardaloedd Danfon
Rydym yn danfon ledled Cymru , Lloegr a thir mawr yr Alban. Yn bresennol, nid
ydym yn danfon i Ynysoedd yr Alban, Iwerddon ac Ewrop. Byddwn yn ystyried
ehangur gwasanaeth yn y dyfodol. Am fanylion pellach ynglyn ac ardaloedd
danfon
cliciwch yma
Costau Danfon
Cost cludiant/danfon yw
£9.00
am bob archeb a anfonir i gyfeiriad gwahanol. Caiff archebion dros
£250.00
eu danfon yn rhad ac am ddim. Os na allwn ddanfon, caiff cerdyn ei adael gyda
rhif cyswllt, fel y gallwch ail drefnu diwrnod. Maen angenrheidiol i ni dderbyn
llofnod.
Dychwelyd a Difrod
Wrth dderbyn yr archeb, maen angenrheidiol ei ch bod yn ei archwilio yn ofalus i
sicrhau ei fod yn gyfan ac nad oes eitemau ar goll. Rhaid hysbysebur courier
ar y pryd o unrhyw ddifrod neu ddiffyg. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw gais am
ddifrod neu ddiffyg os nad ydynt wedi eu nodi ar waith papur y courier.
Rhaid ein hysbysebu drwy e-bost post@blasarfwyd.com o unrhyw ddifrod neu
ddiffyg oddi mewn 36 awr o dderbyn yr archeb. Byddwn yn amnewid neu ad-dalu y
nwyddau. I sicrhau fod ceisiadau yn ddilys, byddwn yn gofyn ir eitemau gael eu
dychwelyd neu fod lluniau yn cael eu hanfon i ni i ddangos y difrod.
Prisiau
Os nad yn nodi yn wahanol, maer prisiau a'r y wefan yn cynnwys unrhyw TAW sydd
yn daladwy. Nid yw prisiau eitemau yn cynnwys cost danfon. Maer costau danfon
fel yr hyn a nodir yn yr adran danfon. Maer prisiau sydd yn daladwy am eitemau
wedi eu nodi yn glir ar y wefan.
Cyfyngiadau Oed
Yn unol ar gyfraith, ni fyddwn yn gwerthu i unrhyw berson sydd o dan 18oed.
Wrth roddi archeb, rydych yn cadarnhau eich bod yn 18oed neu hyn. Os ywr
derbynnydd yn wahanol ir person a roddodd yr archeb, rhaid ir derbynnydd yn
ogystal fod yn 18oed neu hyn.
Wrth ddanfon, os ywr courier yn ansicr o oed y derbynnydd byddant yn gwneud
cais am ddogfen adnabod. Os na all y derbynnydd gynhyrchu dogfen adnabod, ni
fydd yr archeb yn cael ei adael.
Diddymu Archeb
Byddwn yn derbyn cais i ddiddymu archeb hyd at 7 diwrnod ar l iddo gael ei
ddanfon. Rhaid i nwyddau a gaiff eu dychwelyd yn y dull yma eu dychwelyd yn eu
pecynnau gwreiddiol heb unrhyw arwydd o ddefnydd, traul na rhwyg. Chi, y
cwsmer, sydd yn gyfrifol am gostau cludiant ar yr achlysur hwn.
Taliadau
Gawn dderbyniwn taliadau am eitemau ar y wefan drwy Visa, MasterCard, Visa
Delta, Visa Electron, Maestro/Switch and Solo. Mae deiliaid cardiau oll yn
destun dilysiadau drwy ein asiant taliadau diogel ac yn cael eu prosesu gan
HSBC Merchant Services. Nid ydym yn danfon unrhyw archebion cyn ir dilysiadau
ac awdurdodiadau hyn gael eu cwblhau. Os nad yw darparwr eich cerdyn yn
awdurdodi taliad, ni allwn dderbyn eich archeb ac ni fyddwn yn gyfrifol am
unrhyw oedi neu nac archebion na chaiff eu danfon. Gallwn dderbyn taliad siec
am archebion drwyr post, ond ni fyddwn yn anfon y nwyddau hyd y bydd y talid
wedi clurio.
Gwybodaeth Chynnyrch
Rydym yn diweddarur wybodaeth ar y wefan yn gyson e.e. prisiau, newid i labeli
a newid ir flwyddyn cynhaeaf. Os gwnaiff y newidiadau hyn ddigwydd yn ddi
rybudd, gall y nwydd a dderbyniwch fod ychydig yn wahanol ir hyn a nodir a y
wefan. Maer digwyddiadau hyn y tu allan in rheolaeth.
Gwasanaeth Chwsmer
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Blas ar Fwyd an cynnyrch, e-bostiwch
Gwasanaeth Chwsmer
os gwelwch yn dda.