Ar y Ffordd (O'r Gogledd)
Trowch oddi ar yr A55 Ir A470 (De) a teithiwch am oddeutu 12 milltir gan ddilyn yr arwyddion am Betws-y-Coed a Llanrwst. Wrth ddod i mewn i Lanrwst, fe welwch westy Meadow Sweet ar y chwith. Yn union wedyn trowch ir dde i faes parcio sydd yn rhad ac am ddim. Nid oes angen i chi fynd i ganol y dref. Cerddwch or maes parcio yn l at y briffordd ac i gyfeiriad y dref, Blas ar Fwyd fydd y busnes cyntaf i chi ei weld, ac mae adeiladau ar naill ochr y stryd.
Ar y Ffordd (O'r De)
Os byddwch yn dod o gyfeiriad yr A5 neu'r A470, wrth bont Waterloo, Betws-y-Coed parhewch ymlaen ar yr A470 (tua'r Gogledd). Dilynwch yr arwyddion am Lanrwst a Llandudno. Gyrrwch drwy ganol tref Llanrwst ac, fe ewch heibio i fanc yr HSBC ar y sgawr. Byddwch wedyn ar Heol yr Orsaf. Daliwch ymlaen ar hyd Heol yr Orsaf (gan gadw golwg am ein adeiladau) a cymerwch y tro cyntaf ir chwith i faes parcio rhad ac am ddim. Cerddwch yn ol i gyfeiriad y dref a ni yw'r adeiladau cyntaf ar ddwy ochr y stryd.