Croeso i Amser Da   (01492) 641188

Bwyty

Tra bod Blas ar Fwyd wedi cael ei gyfeirio ato fel y delicatessen gorau yng Nghymru, mae hefyd yn cynnwys ty bwyta a brasserie, sef Amser Da, sydd gyferbyn ar deli ar yr un stryd. Fe allwch ddod yma i fwynhau cappuccino boreuol neu eistedd i lawr i gael te prynhawn, tra ar yr un pryd cynigir bwydydd rhyngwladol a Chymreig wedi eu paratoi yn ffres.

Os ydych am fyrbryd ysgafn neu ginio sydyn yna mae gennym fwydlen o frechdanau ffres a detholiad o saladau, oll wedi eu gwneud gyda chynnyrch lleol sydd yn cynnwys pysgod a chigoedd ffres a chawsiau wedi eu gwneud yn y cyffiniau.

Ar y llaw arall, os dymunwch brydau mwy sylweddol yna cynigwn fwydlenni llawn ar gyfer y dydd a gydar nos sydd yn darparu bwydydd rhyngwladol a rhai traddodiadol Cymreig. Maer rhan fwyaf or cynhwysion ar gael yn y delicatessen ac maer cig yn cael ei brynu gan gigyddion lleol, syn golygu y gallwn enwir ffermydd o ble cawn y rhan fwyaf on cig. Rydym hefyd yn cynnig arbenigeddau pryd bynnag deuwn ar eu traws; er engraifft danteithion lleol tebyg i gig carw, ffesantod, brithyll mr ac eog.

I gyd-fynd ar prydau hyn mae rhestr win ar gael sydd yn cynnwys gwinoedd i foddhau pob blas. Yn ogystal ar ty bwyta arferol mae gan Amser Da le neilltuol ar gyfer cyfarfodydd, partion a dathliadau preifat o bob math. Ar gyfer y rhain, fel ymhob achos, argymhellwn i chi drefnu o flaen llaw er mwyn sicrhau lle.