TRADITIONAL WELSH CAERFFILI PGI


Traditional Welsh Caerffili


This artisanal Welsh cheese tells a fascinating story spanning hundreds of years.

The ‘Traditional Welsh Caerphilly’ which we eat today is based on an unchanged recipe written down by Annie Evans in her notebook in 1907, but which probably dates back well into the 19th century. As you might imagine, producing this cheese requires specific knowledge and skills which have been developed and associated with Wales since the early 19th century and have remained largely unchanged for generations. This cheese is not only linked to tradition, but also to place as it is made only from cow’s milk produced on Welsh farms and is the sole native cheese of Wales.

‘Traditional Welsh Caerphilly/Traditional Welsh Caerffili’ is produced as a flat, round shaped cheese with a uniform consistent creamy white texture. It is a fresh young cheese with a mild, slightly “lemony” taste. This taste will develop on maturity to have a more pronounced, fuller, but still mild flavour. ‘Traditional Welsh Caerphilly/Traditional Welsh Caerffili’ has a fresh cheese aroma and a smooth, close and flaky texture. It is sold as a ‘naked’ cheese which is not cloth bound and is made to be eaten young from 10 days old or can be matured for up to 6 months.

In order to champion the unique history which makes up the DNA of this cheese, it was awarded PGI status in 2017.

Traditional Welsh Caerffili         Traditional Welsh Caerffili

Mae'r caws Cymreig artisan hwn yn adrodd stori ryfeddol sy'n pontio cannoedd o flynyddoedd.

Mae'r 'Traditional Welsh Caerffili' yr ydym ni'n ei fwyta heddiw yn seiliedig ar rysáit sydd heb newid a gafodd ei hysgrifennu gan Annie Evans yn ei llyfr nodiadau yn 1907, ond mae'n debyg ei bod yn dyddio'n ôl ymhell i'r 19eg ganrif. Fel y gallwch ddychmygu, mae cynhyrchu'r caws hwn yn gofyn gwybodaeth a sgiliau penodol sydd wedi'u datblygu a'u cysylltu â Chymru ers dechrau'r 19eg ganrif ac wedi aros yr un fath ers cenedlaethau. Nid yn unig mae'r caws hwn yn gysylltiedig â thraddodiad, ond mae ganddo gysylltiad â lle hefyd oherwydd caiff ei gynhyrchu'n unig o laeth buwch a gynhyrchir ar ffermydd Cymru a dyma yw unig gaws brodorol Cymru.

Cynhyrchir 'Traditional Welsh Caerffili' fel caws crwn, gwastad sydd â gwead gwyn hufennog cyson. Mae'n gaws ifanc ffres a blas mwyn iddo, gydag awgrym o lemon. Bydd y blas yn datblygu wrth iddo aeddfedu i flas llawnach, cryfach, ond eto'n parhau i fod yn fwyn. Mae arogl caws ffres a gwead llyfn, llawn a haenog i 'Traditional Welsh Caerffili'. Caiff ei werthu fel caws 'noeth' heb liain a'i wneud i gael ei fwyta'n ifanc o 10 niwrnod oed neu gellir ei aeddfedu am hyd at 6 mis.

Er mwyn hyrwyddo'r hanes unigryw sy'n rhan o DNA y caws hwn, dyfarnwyd ef â statws PGI yn 2017.
Product List