HAMPERI WEDI EU PERSONOLI
[Click for English]

Blas ar Fwyd Food Gift Boxes

Eisiau gyrru anrheg llawn bwyd a diod bendigedig Cymreig i rywun arbennig. Ewch ati i greu hamper wedi ei ddewis yn arbennig ar eu cyfer ac mi wnawn ei ddanfon at eu stepen drws? 

Mae 3 cam syml  iawn i'w ddilyn:


1 Dewiswch maint y hamper yr hoffech ei anfon a'i roi yn eich basged

MAWR 
(46.5cm [ll] x 31cm [d] x 19.5cm [u])

I ddal
2 x potel 75cl a hyd at 4 eitem bach 
neu
1x potel 75cl a hyd at 6 eitem bach/canolig 
neu
8 i 12 eitem  bach/canolig, dim potel


CANOLIG
(38cm [ll] x 25cm [d] x 15.5cm [u])

I ddal 
1 x potel 75cl a hyd at 4 eitem bach
neu
hyd at 6 eitem bach/canolig (dim potel)

BACH
(30cm [ll] x 18cm [d] x 10cm [u])

I ddal 
1 x potel 35cl a hyd at 2 eitem bach (ee cacen bach – browni, fflapjac, bocs cracyrs, caws) 
neu
hyd at 6 eitem bach/canolig (dim potel) 

Esiamplau o eitemau a’u maint :
Eitemau canolig: bocs o fisgedi, pecyn o de neu goffi, bag o reis, potel saws 250ml 
Eitemau bach: bar o siocled, cacen bach – browni/fflapjack, jar o sbeis


2 Dewiswch yr eitemau yr hoffech gael eu cynnwys yn y bocs a’u hychwanegu i’ch basged.
Rhowch glic ar waelod y dudalen am ysbrydoliaeth!


3 Unwaith mae’r bocs yn llawn ewch i’ch basged i orffen yr archeb.
Mi allwch ychwanegu nodyn wedi ei bersonoli yn yr adran ‘nodiadau ychwanegol’ a nodi dyddiad penodol iddo gael ei ddanfon os yr hoffech.

Mi awn ati i roi’r pecyn ar ei gilydd a'i ddanfon i’r cyfeiriad yr hoffech – beth all fod fwy syml! 


Nodwch os gwelwch yn dda
Un cyfeiriad yn unig ar un archeb 
os hoffech archebu mwy nag un hamper i gael ei ddanfon i'r un cyfeiriad, anfonwch e-bost neu rhowch ganiad i ni  drafod.
Danfoniad  
[D
iwrnod olaf i archebu hamperi er mwyn iddynt gael eu danfon mewn pryd yw Dydd Mawrth 14eg, neu dydd Iau'r 16eg os ydych am gasglu o'r Deli.]



Dewiswch maint eich hamper - bach, canolig, mawr (mae pob un yn cynnwys pecynnu a rhuban) 


 


Rhowch glic isod am ysbrydoliaeth neu porwch drwy'r ystod eang o fwyd a diod bendigedig ar ein gwefan.