BWYD A DIOD CYMREIG WEDIEI DDANFON I'CH LLETY GWYLIAU
[Cick for English]

Blas ar Fwyd Food Gift Boxes      


Croeso i Gymru!

Pa ffordd well o ymgolli yn niwylliant a blasau Cymru na thrwy bwydydd a diodydd Cymreig wedi ei ddanfon yn syth i’ch llety gwyliau?

Mae cynhyrchwyr bwyd Cymreig gwych ledled Cymru ac mae ein blychau bwyd wedi’i dethol yn ofalus i roi blas o’r rhain i chi.


Mae tri blwch gwahanol i chi ddewis o:


Tywysogion

Tywysogion



Mae Tywysogion yn cyfeirio at dywysogion Cymreig yr Oesoedd Canol. Credir bod Llywelyn Fawr, a fu'n reolwr ar Gymru am 45 mlynedd, wedi ei eni'n lleol yng Nghastell Dolwyddelan. Credir hefyd mai yr arch garreg yn Eglwys Sant Crwst, Llanrwst yw Llywelyn (ond fe gollwyd ei gorff yn yr Afon Gonwy yn ystod y daith o Abaty Maenan i Lanrwst).


Ffordd wych o flasu cwrw o Ogledd Cymru, detholiad o gins Cymreig a dŵr tonic o Gymru.

Prynwch Bocs y Tywysogion



Dwynwen

Dwynwen

Santes Dwynwen yw nawddsant cariadon Cymru a dethlir y diwrnod ar y 25ain o Ionawr.


Yn ôl y chwedl, gwaharddodd tad Dwynwen, sef y brenin o’r 5ed Ganrif Brychan Brycheiniog, rhag iddi briodi ei chariad, Maelon Dafodrill, ac felly fe weddïodd Dwynwen ar Dduw i’w gwella o’i chariad at Maelon. Darparodd angel ddiod arbennig i’w gwella ac fe roddodd y diod y Maelon hefyd a chafodd ei droi yn dalp o rew. Yna, cafodd Dwynwen dri dymuniad: dadmer Maelon, gwneud cariadon Cymru yn hapus a gwneud yn siŵr na fyddai hi byth eisiau priodi. Penderfynodd Dwynwen dreulio gweddill ei hoes ar Ynys Llanddwyn oddi ar arfordir Môn a chysegru ei bywyd i wasanaethu Duw ac edrych ar ôl cariadon Cymru.

Delfrydol ar gyfer cwpl, mae’r bocs yma’n cynnwys cacenni cri, jam a hufen, seidr ffrwythau a gin a thonic.

Prynwch Bocs Dwynwen



Aberffraw

Aberffraw


Aberffraw, ar Ynys Môn oedd prifddinas Gwynedd yn y canol oesoedd cynnar a chanolfan wleidyddol pwysicaf Cymru. Y llys Cymreig yno oedd Gorsedd Brenhinoedd Gwynedd o'r 9fed i'r 13eg Ganrif.


Detholiad i’r teulu cyfan ei fwynhau, mae’r bocs hwn yn cynnwys bisgedi enwog Aberffraw, cawsiau Cymreig o fri, cacenni cri, jam, hufen tolch, siocled, coffi mâl a llawer mwy.

Prynwch Bocs Aberffraw



Archebion a danfon
Darparwr llety/cwsmer masnach:
Gofynnwn yn garedig am o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd am archeb i ganiatáu amser paratoi a danfon - argymellwn gosod eich archeb wythnos cyn i'ch gwesteion gyrraedd, yn ddelfrydol ar ddydd Gwener neu ddydd Llun ar gyfer danfon y dydd Iau neu'r dydd Gwener canlynol.


Nodwch os gwelwch yn dda:
Pan fo eitem allan o stoc, mi wnawn gyfnewid yr eitem hwnnw am gynnyrch tebyg.